Agenda item
Diweddariad Hanner Blwyddyn ar Weithgareddau a Pherfformiad Gwasanaeth Adrannol Gofal Cymdeithasol Plant (Chwarter 3 – 4) ar gyfer 2018/19
I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Plant
Cofnodion:
(Nodir datganiadau o
gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 3 uchod).
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Plant adroddiad (COSC/07/19s) a oedd yn cynnwys gwybodaeth rheoli perfformiad allweddol y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Blant ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2018 - 31 Mawrth 2019. Lle y bo'n briodol, mae data cymhariaeth fel cyfartaleddau Cymru hefyd wedi’i gynnwys. Wrth gyflwyno’r adroddiad pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod y data yn rhoi cyfle i Aelodau Etholedig fonitro perfformiad a thrafod unrhyw fater sy’n ymwneud â'r wybodaeth.
Yn ystod y drafodaeth, fe nodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mewn ymateb i bryderon a
godwyd gan Aelodau o ran cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, dywedodd y
swyddogion bod y cynnydd hwn yn adlewyrchu’r sefyllfa ar draws Cymru a Lloegr.
·
Fe nodwyd y gallai’r galw cyffredinol am wasanaethau gael ei briodoli’n
rhannol i’r cynnydd yn y boblogaeth, yn ogystal â gwelliannau o ran
gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar a chyfeirio at wasanaethau cefnogi. Mae’n bwysig nodi nad yw pob atgyfeiriad yn arwain at achos amddiffyn plant
neu ofal cymdeithasol, ond bod pob atgyfeiriad yn cael effaith uniongyrchol ar
lwyth gwaith staff. Mae’n rhaid i’r staff perthnasol gofnodi ac asesu risg pob
atgyfeiriad. Mae nifer o’r atgyfeiriadau hyn yn cael eu cyfeirio at wasanaethau
cynghorol ac eraill yn cael eu dyrannu ar gyfer asesiad neu gyfarfod
strategaeth er mwyn ymateb iddynt ar unwaith.
·
Cafwyd cadarnhad nad oedd achosion gofal bob amser yn gadael digon o amser
i alluogi teuluoedd i brofi bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu cynnal
oherwydd newidiadau diweddar yn y gyfraith, a bod hyn wedi arwain at gynnydd
mewn Gorchmynion Gofal Llawn yn y gwrandawiad terfynol.
·
Mae’n rhaid cofio’r toriadau
sydd wedi’u gwneud i’r gwasanaeth dros y blynyddoedd, arian a fyddai wedi
cefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cafodd % o’r bobl a gysylltodd
â’r gwasanaeth eu hail-gyfeirio at wasanaethau eraill a gomisiynir gan yr
Awdurdod Lleol, fel Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.
·
Mae llwyth achosion yn cael eu
monitro yn wythnosol ac mae gostyngiad i’w weld yn ddiweddar.
Mae canran uchel wedi’u
hail-gyfeirio at wasanaethau cymorth cynnar h.y. gwasanaethau gwybodaeth i
deuluoedd.
·
Cafodd nifer o blant sydd ar Orchmynion Gofal Llawn eu gosod gyda gofalwyr
sy'n berthnasau, aelodau o’r teulu ac unigolion y mae’r teulu yn eu hadnabod
neu eu gosod gyda rhieni.
·
Cafodd y plant a leolwyd yn
uniongyrchol yn ein gofal eu lleoli mewn gofal maeth neu ofal preswyl a
darparwyd lefel uchel o gymorth.
·
Mae gwelliant wedi bod yn
ddiweddar mewn perthynas â recriwtio a chadw staff.
Mae’n bosibl bod y gwelliant
hwn yn sgil penodi staff asiantaeth i swyddi parhaol o fewn yr Awdurdod Lleol.
Dywedwyd y bydd angen defnyddio staff asiantaeth ar gyfer cyfnodau mamolaeth a
salwch hirdymor.
·
Cadarnhawyd y byddai’r cynnig
gofal plant sydd wedi’i gyflwyno mewn rhai wardiau yn cael ei gyflwyno ar draws
Wrecsam.
Gofynnodd un Aelod am ragor o
wybodaeth am hyn.
·
Mae lleihad cenedlaethol yn
nifer y mabwysiadwyr posibl, a all fod oherwydd y gwelliannau mewn triniaethau
ffrwythlondeb.
Mae Tîm Mabwysiadu Gogledd
Cymru yn cynnal arolwg i geisio cynyddu nifer y ceisiadau gan fabwysiadawyr.
Dywedodd y swyddogion y bydd cyllid ychwanegol ar gael i ddarparu cymorth ar ôl
mabwysiadu.
·
Sylwodd Aelodau ar y ffigwr ar
gyfer asesiadau strategol sydd wedi’u cwblhau o fewn y raddfa amser, sef 74.8%.
Mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru.
Dywedodd y swyddogion pob
perfformiad yn gwella bob mis ond y byddai’n cymryd amser i ddangos tystiolaeth
o’r gwelliannau hyn oherwydd y ffordd y caiff gwybodaeth ei chasglu a’i
chyflwyno.
·
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori
ynghylch y Fframwaith Perfformiad eto, ac, yn benodol, bydd fframwaith
perfformiad diwygiedig ar gyfer pobl sy'n gadael gofal sydd wedi profi
digartrefedd yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.
·
Cadarnhawyd fod llety lle ceir
cefnogaeth ar gael i bobl sy'n gadael gofal a bod llawer o gymorth yn cael ei
gynnig a’i ddarparu i unigolion hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.
CYTUNWYD -
(i)
Wrth ddarllen yr
adroddiad mae’n amlwg bod gwelliannau sylweddol wrth recriwtio a chadw staff. Hefyd,
mae'r swydd newydd a grëwyd yn ymddangos fel pe bai wedi annog teuluoedd i ddod
yn ofalwyr maeth.
(ii)
Er bod lle i wella o hyd,
mae’r Pwyllgor yn dymuno llongyfarch yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Plant a’r holl staff am y gwelliannau hyn.
(iii)
Mae’r Pwyllgor yn pryderu
ynghylch a oes cyllid digonol ar gael i gynnal y gwelliannau hyn.
Supporting documents: