Agenda item
Adolygu Gwasanaethau Dydd a Chyflogaeth y Gwasanaeth Anableddau
I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol ar gyfer
Pobl - Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Pobl – Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion adroddiad
(HASC/08/18s) a oedd yn rhoi’r adborth a gwaith dysgu i’r Aelodau a gafwyd o’r
ymgynghoriad ffurfiol gydag unigolion, eu teuluoedd / gofalwyr a staff o ran
Cam 1 a 2 o ddull tri cham ar ail-lunio cyfleoedd dydd a gwaith.
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol yr adroddiad a dywedodd fod angen moderneiddio gwasanaethau
cyfleoedd dydd a gwaith, gan gynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau yn y gymuned,
er mwyn darparu gwasanaethau o safon sy’n fwy hyblyg a chynaliadwy ac sy’n
canolbwyntio ar unigolion sy’n addas i’r diben ac sy’n gwneud defnydd mwy effeithiol
o’r adnoddau sydd ar gael. Bydd hefyd yn
cefnogi’r rhaglen ail-lunio Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac ymateb i
ddyletswyddau statudol newydd ar gyfer yr Awdurdod Lleol i ddarparu cefnogaeth
â mwy o ganolbwynt i unigolion ag anableddau. Mae ymgynghori ffurfiol wedi’i
gynnal ar y dewis gydag unigolion, eu teuluoedd / gofalwyr, staff a
chynrychiolwyr Undeb Llafur a bydd yr adborth a gafwyd yn helpu i ffurfio’r
cynllun pontio pe bai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i barhau â’r cynnig.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, cododd Aelodau’r pwyntiau a ganlyn yn benodol, a gwnaeth
yr Aelod Arweiniol, a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y Rheolwr
Gwasanaeth – Anabledd a’r Rheolwr Comisiynu a Chontractau ymateb fel a ganlyn:
·
Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd ragor o
wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth gynnal yr ymarfer ymgynghori am y
dewisiadau arfaethedig a amlinellir yng Ngham 1 a 2 yr adolygiad.
Nid oedd gwybodaeth am
nifer yr holiaduron a ddychwelwyd ar gael yn y cyfarfod.
·
Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y bydd
unigolion sy’n mynychu unrhyw un o’r prosiectau sydd dan adolygiad ar hyn o
bryd fel rhan o’u cynllun gofal a chymorth yn parhau i gael yr un lefel o
gymorth tra bydd cyfleoedd amgen yn cael eu hystyried i ddiwallu eu hanghenion
a aseswyd.
·
Gofynnodd Aelod am gadarnhad fod pawb a oedd yn cael y
ddarpariaeth gwasanaeth bresennol wedi cael gwybod yn ystod y broses ymgynghori
am eu hawl i benodi eiriolwr i’w cynorthwyo i gwblhau’r holiadur ymgynghori fel
a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
·
Gan ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Anabledd fod
dyletswydd dan y Ddeddf i ddarparu gwasanaeth eiriolaeth os oedd angen, ac roedd
dau eiriolwr cyffredinol wedi bod yn bresennol yng ngweithdy’r
ymgynghoriad.
Roedd nifer
o’r defnyddwyr gwasanaeth wedi dewis aelodau o’r teulu neu gynrychiolwyr a
enwebwyd, gan gynnwys ffrindiau neu eu darparwr byw â chymorth, i fynychu a’u
cynrychioli yn y cyfarfodydd ymgynghori.
Yn ogystal â chynrychioli’r defnyddwyr gwasanaeth roedd rhai o’r
cynrychiolwyr hyn wedi cyflwyno eu barn eu hunain am y dewisiadau arfaethedig.
·
Gofynnodd Aelod am y wybodaeth ddiweddaraf am yr
adolygiad o brosiect busnes Profi Teclynnau Symudol (PAT).
·
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Anabledd fod y prosiect
busnes PAT yn cefnogi un unigolyn ar hyn o bryd ac roedd darparwr masnachol
amgen ar gael drwy gynllun caffael cymeradwy’r Cyngor.
Mae newidiadau o ran
deddfwriaeth wedi dileu’r gofyniad bod profion PAT yn cael eu cynnal bob
blwyddyn. Mae bwrdd Cwmni Masnachu
Awdurdodau Lleol (LATC) wedi penderfynu na fyddai’n ddewis hyfyw i gynnal y
gwasanaeth, felly, bydd yn rhoi’r gorau i weithredu yn dilyn nodi dewisiadau
eraill i ddiwallu anghenion a aseswyd yr unigolyn. Gofynnodd Aelodau fod copi o’r achos busnes a
gynhaliwyd gan LATC yn cael ei ddarparu iddynt yn dilyn y cyfarfod.
·
Gan gyfeirio at gaffi Dyfroedd Alun, awgrymodd Aelodau y
dylai’r broses gaffael gynnwys gofyniad y dylai cyfleoedd hyfforddiant / gwaith
/ gwirfoddoli i bobl ag anableddau neu grwpiau eraill dan anfantais gael eu
cynnwys fel rhan o’r manylion tendr.
·
Cyfeiriodd Aelod at yr adborth sydd wedi’i gynnwys yn y
pecyn ymateb i'r ymgynghoriad a bod nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi mynegi
gwrthwynebiad cryf i’r newidiadau arfaethedig.
Roedd nifer o
ofalwyr hefyd wedi nodi’r effaith negyddol bosibl y gallai’r newidiadau
arfaethedig eu cael ar eu cyfrifoldebau gofalu parhaus.
·
Mynegodd Aelod bryder am ddewis a dethol prosiectau ar
gyfer adolygiad a byddai’r dull hwn yn lleihau cyfleoedd gwaith ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth yn y dyfodol.
Awgrymodd fod
y Cyngor yn dilyn enghraifft rhai awdurdodau lleol cyfagos a diogelu
darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol drwy sicrhau bod un darparwr yn darparu'r
holl Wasanaethau Dydd a Chyflogaeth (Gwasanaethau Anabledd) ar gontract
allanol.
·
Gan ymateb, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Anabledd
ragor o wybodaeth am y model gwasanaeth newydd a’r terfyn amser arfaethedig ar
gyfer cwblhau’r adolygiad tri cham.
Bydd y model
yn canolbwyntio ar ddarparu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r
holl ddefnyddwyr gwasanaeth newydd er mwyn nodi canlyniadau unigol. Yna caiff gwaith ei wneud gyda’r unigolyn i
nodi cyfleoedd cynaliadwy i gyflawni’r canlyniadau hyn o fewn y terfynau amser
arfaethedig. Gallai’r canlyniadau gynnwys darparu cyfleusterau
cymdeithasol / hamdden yn ogystal â chyfleoedd gwaith. Bydd yr adran hefyd yn cadw rôl fonitro i
sicrhau bod cleientiaid unigol yn parhau i gael eu cefnogi.
·
Cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gofal
Cymdeithasol i Oedolion at bwysau ar y gyllideb Gofal Cymdeithasol a bod yr
adolygiad hwn yn cael ei gynnal fel rhan o raglen ail-lunio i wneud defnydd
gwell o adnoddau cyfyngedig.
Bydd y
gwasanaeth yn cadw’r lefel bresennol o weithwyr cefnogi a bydd yr aelodau staff
hyn yn darparu’r adnoddau gofynnol i gefnogi darparu rhagor o amrywiaeth o
wasanaethau yn y gymuned a gweithio gyda chleientiaid i nodi canlyniadau a
datblygu cynlluniau cefnogi sy’n adlewyrchu’r canlyniadau hyn. Caffi Dyfroedd Alun oedd
yr unig brosiect a gynigiwyd i gael ei drosglwyddo i fusnes neu fenter
gymdeithasol.
·
Roedd gan sawl Aelod bryder o hyd am allu’r gwasanaeth
Gofal Cymdeithasol i Oedolion i sicrhau y gellid datblygu cynlluniau unigol
sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth
presennol o fewn y terfynau amser arfaethedig.
Hefyd, nid oedd digon o
wybodaeth ar gael am gynigion model gwasanaeth yn y dyfodol.
CYTUNWYD
Bod y Pwyllgor Craffu ar Ddiogelu, Cymunedau a
Lles yn gwneud yr argymhellion a ganlyn i’r Bwrdd Gweithredol:
(i) Gofyn i’r Aelod Arweiniol, Swyddogion a’r Bwrdd Gweithredol
i ohirio’r penderfyniad am Gamau 1 a 2 yr Adolygiad o Wasanaethau Dydd a
Chyflogaeth (Gwasanaethau Anabledd) nes bydd y Pwyllgor Craffu ar Ddiogelu,
Cymunedau a Lles wedi gweld y cynigion model gwasanaeth yn y dyfodol.
(ii) Bod defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael eu
cynnwys yn y broses o ddewis modelau gwasanaeth sydd ar gael.
(iii) Bod y Pwyllgor Craffu ar Ddiogelu, Cymunedau a
Lles yn cael cyfle i ystyried cynigion ar gyfer Cam 3 yr Adolygiad cyn
ymgynghoriad.
Supporting documents: