Rhaglen a chofnodion
O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.Cyswllt: Jane Johnson Rhelowr Pwyllgor
Rhif | Eitem |
---|---|
Presenoldeb yng ngarddwestau brenhinol I ystyried yr adroddiad amgaeëdig Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Gwasanaeth i Gwsmeriaid
adroddiad (HCCS/06/18)) i gytuno bod gwesteion enwebedig y Cyngor yn mynd i
Arddwest Frenhinol yn 2018. Yn dilyn rhannu’r adroddiad
HCCS/06/18, derbyniwyd y canllaw canlynol gan Dîm y Garddwest Frenhinol yn y
CLlL O dan
amgylchiadau cyffredinol os yw unigolyn eisoes wedi bod i Arddwest Frenhinol
mewn unrhyw fodd, yna nid yw’n bosib iddynt fynychu eto. Fodd bynnag, mae’r
rheolau yn fwy hyblyg i’r Meiri sydd newydd ei ethol/ymadawol i allu mynd am yr
ail dro. Mae’r CLlL wedi nodi y byddai enwebiad ar gyfer y Maer sy’n dod i mewn, y
Cynghorydd Andy Williams, a’r Faeres Mrs Beverley Williams, i fynychu Garddwest
yn 2018 yn cael ei gymeradwyo. Nodwyd bod enwebiad pellach wedi
cael ei dderbyn gan y Cynghorydd Nigel Williams. PENDERFYNWYD - Y byddai’r Maer sy’n dod i mewn,
y Cynghorydd Andy Williams, a'r Faeres, Mrs Beverley Williams, ynghyd â'r
Cynghorydd Nigel Williams, a'i wraig Mrs Caroline Williams, yn cynrychioli’r
Cyngor yn un o’r Garddwesti Brenhinol yn 2018. Y dylid delio â'r mater hwn fel
eitem frys o fusnes yn unol â Rheol Sefydlog 43(1) Rheolau Sefydlog y Cyngor. Rheswm dros y penderfyniad Sicrhau bod
cynrychiolaeth o’r Cyngor yn un o’r Garddwesti yn 2018 a bod enwebiadau yn cael
eu cyflwyno cyn y dyddiad cau. |