Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref
Cyswllt: Helen Coomber Rhelowr Pwyllgor
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriad am absenoldeb ar ran y
Cynghorydd Joan Lowe. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cadarnhau
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi 2019 fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD - Llofnodi Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
Datganiadau o gysylltiadau personol, os oes rhai Atgoffir yr Aelodau o’u cyfrifoldeb, dan Baragraff 11 o God Ymddygiad yr Aelodau, i ddatgan bodolaeth a natur unrhyw gysylltiad personol mewn perthynas ag unrhyw un o'r busnesau i'w trafod yn y cyfarfod hwn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd aelodau o’u cyfrifoldeb, dan
Baragraff 11 o God Ymddygiad yr Aelodau, i ddatgan unrhyw gysylltiadau mewn
perthynas ag unrhyw un o'r busnesau i'w trafod yn y cyfarfod hwn. Gwnaed y
datganiadau canlynol: Eitem 6 ar y Rhaglen – Rhaglen Gyfalaf 2019/20 –
2023/24 Y Cynghorwyr Dana Davies, D J Griffiths a Phil Wynn
– Cysylltiad Personol sy'n Rhagfarnu – Llywodraethwr Ysgol. Arhosodd y
Cynghorwyr yn y cyfarfod gan hawlio eithriad dan Baragraff 12(2) Cod Ymddygiad
yr Aelodau gan gymryd rhan yn y drafodaeth ac yn achos Aelodau'r Bwrdd
Gweithredol, pleidleisio wedi hynny. Y Cynghorwyr David A Bithell a Paul Pemberton –
Personol – Aelodau o Gyngor Cymuned y Rhos. Arhosodd y Cynghorwyr yn y cyfarfod
gan gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio wedi hynny yn achos Aelod y
Bwrdd Gweithredol. Eitem 9 ar y Rhaglen - Penodi Aelod i Gyrff Allanol Y Cynghorydd David Kelly - Personol sy’n Rhagfarnu – Penodwyd i Sefydliad
Addysgol (Plwyfol) Wrecsam. Arhosodd y Cynghorydd yn y
cyfarfod gan hawlio eithriad dan Baragraff 12(2) o God Ymddygiad yr Aelodau, a
chymrodd ran yn y drafodaeth wedi hynny. |
|
Cadeirydd Llywyddol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gadawodd y Cadeirydd y Gadair a llywyddodd yr
Is-gadeirydd, y Cynghorydd David A Bithell, dros yr eitemau nesaf ar y Rhaglen,
er mwyn galluogi’r Arweinydd i gyflwyno Eitemau 5 a 6 ar y Rhaglen yn rhinwedd
ei swydd fel Aelod Arweiniol Trefniadaeth - Cyllid, Perfformiad, Iechyd a
Diogelwch a Llywodraethu. (Y Cynghorydd David A Bithell yn Cadeirio) |
|
Canolbwyntio ar Ein Perfformiad 2018-19 I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – Bod yr adroddiad ‘Canolbwyntio ar ein Perfformiad 2018/19’ a
amlinellwyd yn Atodiad 3 adroddiad CE/15/19 yn cael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi.
Rheswm dros y
penderfyniad (i) I alluogi’r Cyngor i gydymffurfio â’i ofynion adrodd statudol a darparu
asesiad cyhoeddus o gynnydd a wnaethpwyd yn erbyn Cynllun y Cyngor.
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad (CE/15/19)
i ddarparu asesiad o berfformiad yn erbyn Cynllun y Cyngor 2018/19 i Aelodau.
Nodwyd y byddai’r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi fel ‘Canolbwyntio ar Ein
Perfformiad 2018-19’. Cafwyd trafodaeth yn dilyn hynny, a chodwyd y
pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth: ·
Ceisiwyd eglurder yn ymwneud
â’r data ar gyfer taclo tlodi. Dywedodd yr Aelod Arweiniol fod Wrecsam ar hyn o bryd yn
perfformio’n dda a bod amcanion yn cael eu diwallu. Darparwyd y dangosyddion
Cymru gyfan i roi cymhariaeth ehangach, ond roedd peth o'r wybodaeth yn
hanesyddol a ddim bob amser yn dangos go iawn beth oedd yn digwydd yn lleol. ·
Cadarnhad fod yna gamgymeriad
wedi bod yn y data yn ymwneud â'r nifer o bobl y mae’n hysbys nad ydynt mewn
cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET), oedd wedi arwain at gynnydd
artiffisial yn y ffigyrau. ·
Ceisiwyd eglurhad mewn
perthynas â phrosiect peilot am drafnidiaeth seiliedig ar alw. PENDERFYNWYD – Bod yr adroddiad ‘Canolbwyntio ar ein Perfformiad 2018/19’ a amlinellwyd yn Atodiad 3 adroddiad CE/15/19 yn cael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi. Rheswm dros y
penderfyniad (i) I alluogi’r Cyngor i gydymffurfio â’i ofynion adrodd statudol a darparu asesiad cyhoeddus o gynnydd a wnaethpwyd yn erbyn Cynllun y Cyngor. |
|
Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2023/24
I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (i) Bod dyraniad Cyllid Cyfalaf Cyffredinol
Llywodraeth Cymru yn 2023/24, a argymhellwyd gan y Grŵp Strategaeth Tir ac
Adeiladau Corfforaethol ym mharagraff 4.18 yr adroddiad COFI/69/19, yn cael ei
gymeradwyo. (ii) Bod dyraniad Darpariaeth Cyfalaf Blynyddol
Treftadaeth a Lles Cymunedol a ddangosir ym mharagraff 4.20 yn cael ei
gymeradwyo. (iii) Bod y
rhaglen dreigl ar gyfer 2019/20 hyd 2023/24, fel mae wedi’i nodi yn atodiadau 2
a 3, yn cael ei chymeradwyo. (iv) Bod y rhaglen gyfalaf yn cael ei hadolygu a’i
hadrodd i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Chwefror 2020. Rhesymau dros y
penderfyniadau (i) Mae’r adroddiad hwn yn dilyn adroddiad monitro cynharach ym mis Gorffennaf
yn unol â Rheoliadau Ariannol 3.13 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Brif Swyddog
Cyllid a TGCh fonitro’r Rhaglen Gyfalaf ac adrodd arni wrth yr Aelodau. (ii) Yn unol â Deddf
Llywodraeth Leol 2003 mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol gydymffurfio a Chod
Materion Ariannol CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf. Cofnodion: (Nodir
datganiadau o gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 45 uchod) Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth –
Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu adroddiad (COFI/69/19)
yn gofyn i Aelodau adolygu Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2023/24. PENDERFYNWYD – (i) Bod dyraniad Cyllid Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn 2023/24, a argymhellwyd gan y Grŵp Strategaeth Tir ac Adeiladau Corfforaethol ym mharagraff 4.18 yr adroddiad COFI/69/19, yn cael ei gymeradwyo. (ii) Bod dyraniad Darpariaeth Cyfalaf Blynyddol Treftadaeth a Lles Cymunedol a ddangosir ym mharagraff 4.20 yn cael ei gymeradwyo. (iii) Bod y rhaglen dreigl ar gyfer 2019/20 hyd 2023/24, fel mae wedi’i nodi yn atodiadau 2 a 3, yn cael ei chymeradwyo. (iv) Bod y rhaglen gyfalaf yn cael ei hadolygu a’i hadrodd i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Chwefror 2020. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Mae’r adroddiad hwn yn dilyn adroddiad monitro cynharach ym mis Gorffennaf
yn unol â Rheoliadau Ariannol 3.13 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Brif Swyddog
Cyllid a TGCh fonitro’r Rhaglen Gyfalaf ac adrodd arni wrth yr Aelodau. (ii) Yn unol â Deddf Llywodraeth
Leol 2003 mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol gydymffurfio a Chod Materion
Ariannol CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf. (Y Cynghorydd
Mark Pritchard yn y Gadair) |
|
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/19 I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (i) Y dylid nodi’r adroddiad ynghyd â’r Llythyr Blynyddol. (ii) Y byddai’r
Pwyllgor Craffu Cwsmeriaid, Perfformiad, Adnoddau a Llywodraethu yn parhau i
fonitro perfformiad y gwasanaethau cwsmeriaid a chwynion bob chwe mis. Rhesymau dros y
penderfyniadau (i) I alluogi’r Bwrdd Gweithredol i adolygu perfformiad
y Cyngor wrth ymateb i gwynion cwsmeriaid Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth –
Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol adroddiad (COGC/46/19) er mwyn hysbysu’r
Aelodau am lythyr blynyddol Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr
Ombwdsman”) 2018/19, yn ôl cais yr Ombwdsman. PENDERFYNWYD – (i) Y dylid nodi’r adroddiad ynghyd â’r Llythyr Blynyddol. (ii) Y byddai’r
Pwyllgor Craffu Cwsmeriaid, Perfformiad, Adnoddau a Llywodraethu yn parhau i
fonitro perfformiad y gwasanaethau cwsmeriaid a chwynion bob chwe mis. Rhesymau dros y
penderfyniadau (i) I alluogi’r Bwrdd Gweithredol i adolygu perfformiad y Cyngor wrth ymateb i
gwynion cwsmeriaid |
|
I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol ar gyfer Lle – Amgylchedd a Thrafnidiaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD –
Bod y weithdrefn codi tâl yn ôl disgresiwn yn cael ei chymeradwyo i'w
gweithredu o 1 Tachwedd 2019. Rheswm dros y
penderfyniad (i) Er mwyn gallu darparu gwasanaeth gwerth ychwanegol
yn ôl disgresiwn mewn modd cynaliadwy. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lle – yr Amgylchedd a
Chludiant adroddiad (COET/13/19) i geisio cymeradwyaeth i'r egwyddor
o godi tâl am gyngor cyn cyflwyno cais a chytuno i’r ffioedd arfaethedig ar
gyfer darparu Systemau Draenio Cynaliadwy. PENDERFYNWYD – Bod y weithdrefn codi tâl yn ôl
disgresiwn yn cael ei chymeradwyo i'w gweithredu o 1 Tachwedd 2019. Rheswm dros y penderfyniad (i) Er mwyn gallu darparu gwasanaeth
gwerth ychwanegol yn ôl disgresiwn mewn modd cynaliadwy. |
|
Penodi Aelodau i Gyrff Allanol I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (i) Y dylai’r Cynghorydd David Kelly a Helen Hughes
gael eu penodi i gynrychioli'r Cyngor ar Sefydliad Addysg (Plwyfol) Wrecsam nes
dyddiad yr etholiadau llywodraeth leol nesaf. (ii) Ymdrin â'r mater dan sylw fel eitem fusnes frys yn
unol ag Adran 5 (Rheol 5.8.10) o Gyfansoddiad y Cyngor. Rheswm dros y
penderfyniad Sicrhau bod y Cyngor yn
cael ei gynrychioli’n briodol ar gyrff allanol a nodir yn yr adroddiad a
galluogi’r Aelod i fynychu cyfarfodydd yn ddi-oed. Cofnodion: (Nodir
datganiadau o gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 45 uchod) Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau,
Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, adroddiad
(COGC/51/19) yn gofyn i’r Aelodau ystyried penodi Aelodau i gynrychioli'r
Cyngor yn Sefydliad Addysgol (Plwyfol) Wrecsam. PENDERFYNWYD
– (i) Y dylai’r Cynghorydd David
Kelly a Helen Hughes gael eu penodi i gynrychioli'r Cyngor ar Sefydliad Addysg
(Plwyfol) Wrecsam nes dyddiad yr etholiadau llywodraeth leol nesaf. (ii) Ymdrin â'r mater dan sylw fel
eitem fusnes frys yn unol ag Adran 5 (Rheol 5.8.10) o Gyfansoddiad y Cyngor. Rheswm
dros y penderfyniad Sicrhau
bod y Cyngor yn cael ei gynrychioli’n briodol ar gyrff allanol a nodir yn yr
adroddiad a galluogi’r Aelod i fynychu cyfarfodydd yn ddi-oed. |