Rhaglen a chofnodion
O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref
Cyswllt: Helen Coomber Rhelowr Pwyllgor
Media
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ateb unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd neu dderbyn datganiadau cyhoeddus neu ddeisebau dan Reolau Sefydlog 10 a 11 o Reolau Sefydlog y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb ar ran y Cynghorwyr Russell Gilmartin, Kevin
Hughes, Gwenfair Lloyd Jones, Hugh Jones, M G Morris a Nigel Williams. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Maer Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y
Maer at y parêd Dydd Gŵyl Dewi blynyddol a fyddai’n cael ei gynnal yng
nghanol y dref ddydd Gwener 1
Mawrth, gan annog Aelodau i ymuno â’r parêd pe gallent. Dywedodd y Maer
fod Safonau’r cyn-filwyr bellach i’w gweld yn Siambr y Cyngor. Daeth llawer
o’n cyn-filwyr lluoedd arfog lleol i’r digwyddiad datgelu yr wythnos ddiwethaf,
ac yn falch iawn o
fod wedi cael bod yn rhan o'r digwyddiad. Rhoddodd y Maer
wybod i Aelodau a swyddogion am noson elusennol yr oedd yn ei threfnu i godi
pres ar gyfer nawdd ei
elusen ym mis Ebrill. Byddai’n cadarnhau
gwybodaeth bellach maes o law. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD - Cadarnhau
Cofnodion cyfarfod y Cyngor Bwrdeistref Sirol a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018
fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion y Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgorau Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan Aelodau
yn codi o Gofnodion y Bwrdd Gweithredol, y Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd o dan Reol
Sefydlog 9 o Reolau Sefydlog y Cyngor. I gynorthwyo’r Aelodau, yn amgaeedig
ceir rhestr o'r cyfarfodydd gwahanol sydd wedi
digwydd ers cyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor, y mae’r Cofnodion wedi'u cymeradwyo a'u cyhoeddi ar
wefan yr Awdurdod. Gellir cael copïau,
os oes angen,
trwy'r Adain Gwasanaethau Pwyllgorau ac Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion gan Aelodau mewn perthynas â Chofnodion cyfarfodydd sydd wedi'u cynnal
ers cyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor, y mae’r Cofnodion wedi'u cymeradwyo
a'u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelodau i'r Bwrdd Gweithredol, Pwyllgorau, Pwyllgorau Craffu a Phaneli Amrywiol Ystyried
adroddiad y Swyddog Monitro Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (HCCS/07/19)
sy’n galluogi i Aelodau ystyried penodiad Aelodau i swyddi gwag y Bwrdd
Gweithredol, Pwyllgorau, Pwyllgorau Craffu a Phaneli amrywiol a sefydlwyd gan y
Cyngor fel rhan o’i Gyfansoddiad. PENDERFYNWYD - Bod y swyddi gwag yn cael eu llenwi
fel a ganlyn: Pwyllgor Craffu Cwsmeriaid, Perfformiad, Adnoddau a’r
Drefn Lywodraethol (1 sedd) Y Cynghorydd Paul Rogers Pwyllgor Craffu Cartrefi ac Amgylchedd (1 sedd) Y Cynghorydd Ronnie Prince Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu (1 sedd) Y Cynghorydd William Baldwin Panel Tâl a Gwobrwyo (1 sedd) Y Cynghorydd Joan Lowe Pwyllgor Archwilio (1 sedd) Y Cynghorydd Mike Davies RHESWM DROS Y
PENDERFYNIAD Cytuno i benodi Aelodau i swyddi gwag y Bwrdd
Gweithredol, Pwyllgorau, Pwyllgorau Craffu a Phaneli Amrywiol a sefydlwyd gan y
Cyngor fel rhan o’i Gyfansoddiad, fel yr amlinellir ym mharagraff 2.1 yr
adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb Refeniw a Gosod Treth y Cyngor 2019/20 I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid,
Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu adroddiad (HF/06/19) a oedd yn
galluogi i Aelodau gytuno ar gyllideb refeniw 2019/20 yn unol ag argymhellion y
Bwrdd Gweithredol ac i osod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n
dechrau ar 1 Ebrill 2019. Dywedodd Aelod na allai
gefnogi’r gyllideb arfaethedig am nifer o resymau a nododd ei fod yn teimlo y
byddai cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn rhoi pwysau ar y bobl fwyaf diamddiffyn yn
Wrecsam. Wedi hynny, wrth gydnabod yr angen i wneud
arbedion effeithlonrwydd yn ogystal â thoriadau, siaradodd nifer o Aelodau o
blaid y gyllideb arfaethedig, gan gyfeirio’n benodol at eu cymeradwyaeth o'r
cynnydd o 3% yn y gyllideb gyfyngedig i ysgolion a’r gwaith symleiddio diweddar
i’r uwch strwythur. PENDERFYNWYD - 1 Cymeradwyo’r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020 fel y’i
cyflwynwyd. 2 Y
nodir fod y Pennaeth Cyllid wedi cyfrifo’r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn
2019/2020 yn unol â’r rheoliadau a wnaed o dan adran 33[5] o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (fel y’i diwygiwyd):- (a) 53421 yw’r swm a gyfrifwyd gan y Cyngor,
yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth
Gyngor) (Cymru) 1995, fel ei Sylfaen Treth Gyngor am y flwyddyn 2019/2020. (b) Fod rhan o ardal y Cyngor yn symiau a
gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol â rheoliad 6 o’r Rheoliadau, fel symiau ei
Sylfaen Treth Gyngor am y flwyddyn i anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal lle
mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol.
3. Fod y symiau canlynol bellach yn cael
eu cyfrifo gan y Cyngor am y flwyddyn 2017/18 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Cymru 1992 fel y’i diwygiwyd :-
|