Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Decision details

Proposal to consult on the increase in pupil capacity at Barker's Lane CP - Objection Report

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved (subject to call-in)

Is subject to call in?: Yes

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

 (i)       Nodi’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol, a gyflwynwyd yn yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiad yn Atodiad 1 i’r adroddiad (COEEI/14/19).

 

 (ii)      Y dylid awdurdodi’r Swyddogion i fynd ymlaen â’r cynnig fel y'i cyhoeddwyd:  

 

            Creu estyniad i’r adeilad presennol er mwyn gallu derbyn 105 o ddisgyblion ychwanegol (15 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn).  Byddai cynnydd y flwyddyn gyntaf ym mis Medi 2020 ar gyfer dosbarthiadau Meithrin (15 lle) a Derbyn (15 lle) yn unig.

 

            Bydd y nifer derbyniadau blynyddol yn cynyddu 15 lle (o 30 i 45) ar gyfer lleoedd meithrin a derbyn o 2020 ymlaen, a bydd y dosbarthiadau hyn yn bwydo i weddill yr ysgol nes y cyrhaeddir yr uchafswm o ran lleoedd o 315 (a 45 lle meithrin).

 

Rhesymau dros y penderfyniadau

 

(i)           Mae galw parhaus am leoedd yng nghanol tref Wrecsam.

Er ein bod yn bodloni’r galw ar hyn o bryd, rhagwelir twf pellach.

 

(ii)          Ar gyfer y cylch derbyn presennol yn 2018-2019 methodd yr Adran Addysg, yr Awdurdod Derbyn, â bodloni’r galw yn lleol ar gyfer lleoedd yng nghanol y dref, a bu’n rhaid gwrthod disgyblion oedd wedi dewis Ysgol Gynradd Gymunedol Lôn Barcas.

 

(iii)         Er mwyn cyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru i leihau meintiau dosbarthiadau cynradd eto, mae’n rhaid darparu mwy o leoedd yn ffisegol, yn enwedig felly yng nghanol y dref.

 

 (iii)      Mae cyfle wedi codi inni fodloni’r galw ychwanegol drwy ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru nad yw’n rhan o Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.  Llywodraeth Cymru fyddai’n ariannu'r prosiect hwn 100%.

 

 

Dyddiad Cyhoeddi: 11/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/07/2019 - Bwrdd Gweithredol

Date comes into force if not called in: 19/07/2019

Call-in deadline date: 18/07/2019

Current call-in Count: 0

Dogfennau cysylltiedig: