Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Manylion am y penderfyniad

Gwneud defnydd unwaith eto o Dai Gwag Hirdymor ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy gynnig cymorth a drwy gamau gorfodi

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gweithredol

Statws Penderfyniad: Argymhellion a Gymeradwywyd

Yn destun galw i mewn?: Ie

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(i)        Cytuno ar y meini prawf a’r matrics sgorio ar gyfer blaenoriaethu eiddo ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer ymyrraeth, fel y nodwyd yn Atodiad 2 adroddiad COHE/30/19, ac ym mhob achos bod Aelodau Arweiniol Cyllid a Thai yn cael eu hysbysu am ganlyniad defnyddio’r meini prawf. 

 

 (ii)       Dylid awdurdodi’r Prif Swyddog Tai a’r Economi i sefydlu Grŵp Gorfodi Eiddo Gwag dan arweiniad swyddogion i ystyried a chytuno ar y dull gweithredu priodol yn unol â’r Matrics Sgorio (Atodiad 2) a deddfwriaeth briodol.

 

 (iii)      Dylid awdurdodi’r Prif Swyddog Tai a’r Economi i fwrw ymlaen ag ymyriadau fel y nodwyd drwy weithredu meini prawf sgorio a’i gytuno gan y Grŵp Gorfodaeth Eiddo.

  

Rheswm dros y penderfyniadau

 

I alluogi defnydd i gael ei wneud unwaith eto o eiddo a thir gwag hirdymor problemus fel rhan o adfywiad hirdymor y Fwrdeistref Sirol lle mae pob opsiwn arall wedi cael eu harfer.

 

 

Dyddiad Cyhoeddi: 11/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/07/2019 - Bwrdd Gweithredol

Yn effeithiol o: 19/07/2019

Dogfennau cysylltiedig: