Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Decision details

Update on the Mold Road Corridor Masterplan

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved (subject to call-in)

Is subject to call in?: Yes

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

 (i)        Dylid nodi dyhead yr Astudiaeth Prif Gynllun fel y caiff ei ddisgrifio.

 

 (ii)       Dylai’r Cyngor barhau i weithio gyda’r Bartneriaeth a budd-ddeiliaid allweddol eraill (gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru ac Chlwb Pêl-droed Wrecsam) i fwrw ymlaen i ddatblygu’r prif gynllun.

 

 (iii)      Dylid awdurdodi’r Prif Swyddog Tai a’r Economi mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, Aelod Arweiniol yr Economi - Datblygu Economaidd ac Adfywio a’r Prif Swyddog Cyllid a TGCh i sicrhau adnoddau pellach, lle bo angen, i gynorthwyo a gwella canlyniadau’r prif gynllun.

 

 (iv)      Dylid awdurdodi’r Prif Swyddog Tai a’r Economi i ymgysylltu â budd-ddeiliaid ar y prif gynllun sy’n cael ei ddatblygu.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Cydnabod a chefnogi rhan y Cyngor gyda Phartneriaeth Porth Wrecsam a chefnogaeth y Cyngor i barhau i weithio gyda budd-ddeiliaid allweddol i fwrw ymlaen â'r weledigaeth ar gyfer Porth Wrecsam.

 

Dyddiad Cyhoeddi: 11/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/07/2019 - Bwrdd Gweithredol

Date comes into force if not called in: 19/07/2019

Call-in deadline date: 18/07/2019

Current call-in Count: 0

Dogfennau cysylltiedig: