Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Rhaglen a chofnodion

O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod 1, Neuadd y Dref

Cyswllt: Sarah Royce  Swyddog Pwyllgorau

Eitemau
Rhif Eitem

58.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Cyflwynwyd ymddiheuriad am absenoldeb ar ran y Cynghorydd David Maddocks.

 

59.

Cadarnhau Cofnodion pdf icon PDF 52 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD - Llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

 

60.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd

Wrth ystyried a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r rhan nesaf o’r cyfarfod, gofynnwyd i'r Aelodau ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd.

 

Eitem 6:  Mae'r Swyddog Priodol wedi penderfynu y dylai paragraff 12 fod yn gymwys wrth ystyried yr adroddiad hwn. Ei barn o ran prawf lles y cyhoedd oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu data personol yn ymwneud ag unigolyn, ac yn groes i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data.   Oherwydd hyn a gan nad oedd yn ymddangos bod lles cyhoeddus llethol o blaid datgelu gwybodaeth bersonol, roedd hi o'r farn bod lles y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn drech na lles y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth.

 

Felly, argymhellir bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r Cyfarfod tra bydd yr eitem canlynol yn cael eu trafod oherwydd ei bod yn debygol, pe baent yn bresennol, y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu iddynt, fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Eitem 6 ar y Rhaglen: Penderfynodd Aelodau wrth ystyried yr adroddiad hwn y dylid gweithredu Paragraff 12. Eu barn o ran prawf lles y cyhoedd oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu data personol yn ymwneud ag unigolyn, a hynny’n groes i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data. Oherwydd hyn a gan nad oedd yn ymddangos bod lles cyhoeddus aruthrol o blaid datgelu data personol, roeddent yn teimlo bod lles y cyhoedd o ran cadw'r eithriad yn drech na lles y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD - Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod, tra bod yr eitem a ganlyn yn cael ei ystyried, oherwydd ei bod yn debygol, pe baent yn bresennol, y byddai’r wybodaeth eithriedig yn cael ei ddatgelu iddynt, fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

61.

Cais Trwydded Gyrrwr Hurio Preifat

I ystyried adroddiad y Pennaeth Amgylchedd a Chynllunio

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth yr Amgylchedd a Chynllunio adroddiad (HEP/09/19) i ystyried cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat.  Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad ac i sylwadau’r Ymgeisydd.

 

PENDERFYNWYD – Cymeradwyo’r cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat fel yr amlinellwyd yn adroddiad HEP/09/19.

 

Gallwch doglo rhwng Saesneg/Cymraeg yng nghornel dde uchaf y dudalen we i ddarllen y dogfennau perthnasol ar gyfer y cyfarfod hwn yn Saesneg.