Rhaglen a chofnodion
O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.Lleoliad: Ystafell Gyfarfod 1, Neuadd y Dref
Cyswllt: Deborah Foulkes Swyddog Pwyllgorau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar ran y Cynghorwyr Sonia
Benbow-Jones, Frank Hemmings a Nigel Williams. |
|
Cadarnhau Cofnodion To sign as a correct record the Minutes of the Meeting held on Thursday 25 July 2019. Cofnodion: PENDERFYNWYD - y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Atodedig er
gwybodaeth yn unig Cofnodion: Cafodd copi o'r
Cylch Gorchwyl ei gyflwyno er gwybodaeth. PENDERFYNWYD – Fod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor
Archwilio yn cael ei nodi. |
|
I ystyried adroddiad y Prif Swyddog Cyllid a TGCh Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid a TGCh y rhaglen waith arfaethedig ar
gyfer 2019/20. Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y byddai’r adroddiad gwella
blynyddol nawr yn cael ei drefnu ar gyfer y cyfarfod yn Rhagfyr 2019. PENDERFYNWYD – Nodi
rhaglen waith 2019/20. |
|
Cofrestrau Risg a Rheoli I ystyried adroddiad y Prif Swyddog Cyllid a TGCh Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid a TGCh adroddiad (COFI/66/19) i amlygu
risgiau sylweddol y Cyngor a sut maent yn cael eu rheoli. Cyflwynodd Arweinydd Archwilio’r adroddiad a dywedodd fod yr wybodaeth a
ddangosir mewn cofrestrau fel ag yr oedd ar 31 Awst 2019 a bod diweddariadau a
gwybodaeth newydd yn parhau. Nododd fod gwelliannau wedi eu gwneud i bolisïau
allweddol a strategaethau yn y Brif Gofrestr Risg. Roedd rhai o’r rhain wedi eu
hamlygu yn y cyfarfod ym mis Mawrth fel rhai oedd o bosib wedi dyddio. Wrth ystyried yr adroddiad cododd yr Aelodau nifer o bryderon ac ymatebodd
Swyddogion i’r rheiny’n briodol. Codwyd y pwyntiau canlynol hefyd: ·
Cyfrifoldeb y Prif Swyddog
perthnasol oedd cynnwys y cofrestrau ac roeddent yn cael eu herio gan
swyddogion yn flynyddol. ·
Roedd pryder nad oedd rhai
polisïau allweddol fel GwE, y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, y Cynllun
Gweithredu Partneriaeth a Chynllun Gweithredu CLlLC yn cael eu cynnwys o fewn
PR02 a allai arwain o bosib at y ffaith na fyddai unrhyw gamau lliniaru yn
erbyn y risgiau lefel uchel. ·
Cadarnhad y byddai’r Brif
Gofrestr Risg a nodwyd yn Atodiad B yn cael ei chyflwyno i’r Prif Swyddogion
priodol. ·
Ceisio eglurhad mewn perthynas
ag effaith Brexit. Dywedwyd wrth swyddogion fod yna gofrestr risg ar wahân
oedd wedi ei hystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor Craffu Cwsmeriaid,
Perfformiad, Adnoddau a’r Drefn Lywodraethol. ·
Gan gyfeirio at Atodiad C awgrymwyd lle'r oedd camau
lliniaru wedi eu nodi fod angen cynnwys dyddiad terfynu er mwyn darparu
sicrwydd pellach. ·
Ceisiwyd eglurder mewn
perthynas â chynnydd y Strategaeth TGCh a Digidol gan nad oedd hwn wedi ei
gyflawni eto. Dywedwyd wrth Aelodau fod y Pennaeth Gwasanaeth yn
ddiweddar wedi gadael yr Awdurdod ond roedd cynlluniau mewn grym i benodi
swyddog yn ei le i ymgymryd â’r rôl. ·
Pryder ynglŷn â’r effaith
ariannol o ganlyniad i’r ffaith fod BIPBC wedi gwrthod ariannu anghenion cymwys
y Cyngor Iechyd Cymuned. Roedd yr
Aelodau gyda’i gilydd yn teimlo’n rhwystredig ynglŷn â’r diffyg proses
llunio penderfyniadau o fewn y Bwrdd Iechyd ac awgrymwyd cynnal cyfarfodydd
gyda'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn rheolaidd. Awgrymodd Aelod y dylid
anfon llythyr at BIPBC i amlygu pryderon y Pwyllgor ac i geisio sicrwydd y
byddai BIPBC yn gweithio mewn partneriaeth i ddatrys y mater. PENDERFYNWYD – (i) Nodi cynnwys y
detholiadau o’r gofrestr risg a rheoli amgaeedig. (ii) Lle'r oedd
camau lliniaru wedi eu nodi ar y Gofrestr Risg, dylid cynnwys dyddiad terfynu. (iii) Fod y Cadeirydd
yn anfon llythyr at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i amlygu pryderon y Pwyllgor
a cheisio sicrwydd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth i
ddatrys y mater o ariannu anghenion cymwys y Cyngor Iechyd Cymuned. |
|
Adroddiad Archwilio Mewnol- Mis Ebrill i Awst 2019 I ystyried adroddiad y Prif Swyddog Cyllid a TGCh Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid a TGCh adroddiad (COFI/67/19) yn gofyn i Aelodau ystyried adroddiad
interim y Pennaeth Gwasanaeth Archwilio a Thechnegol ar gyfer y cyfnod o Ebrill
i Awst 2019. Yn ystod y trafodaethau cododd Aelodau'r materion canlynol yn benodol: ·
Ceisio eglurder mewn perthynas
ag argymhellion blaenoriaeth canolig. Dywedodd swyddogion mai arfer safonol oedd cyfeirio at yr
archwiliad blaenorol er mwyn asesu p’run ai a oedd y risg wedi newid a ph’run
ai oedd yr argymhellion wedi eu gosod. ·
Cadarnhad er bod yna reolaethau ariannol gwael mewn grym
ar gyfer y Gwasanaeth Byw â Chymorth, roedd yna ymateb cadarnhaol iawn wedi bod
i’r cynllun gweithredu. O ganlyniad roedd yr holl Brif Swyddogion wedi cael cais
i adolygu eu gweithdrefnau eu hunain i sicrhau fod yna reolaethau ariannol
effeithiol mewn grym. ·
Pwysigrwydd sicrhau fod
Rheolau’r Weithdrefn Ariannol yn cael eu hatgyfnerthu drwy fwletinau staff a
monitro rheolaidd gan reolwyr atebol er mwyn lleihau’r nifer o adroddiadau o
beidio â chydymffurfio. Cadarnhaodd swyddogion os na fyddai’r gweithdrefnau’n
cael eu dilyn a bod tystiolaeth fod hyfforddiant priodol wedi ei ddarparu yna
fe allai’r weithdrefn galluoedd cael ei hystyried. ·
Cadarnhaodd yr Arweinydd
Archwilio fod yna gylch o ran cynnal archwiliadau a bod hwn wedi ei seilio ar
asesiad blynyddol o risgiau. PENDERFYNWYD – Fod
Adroddiad Interim Archwilio Mewnol o Ebrill i Awst 2019 yn cael ei nodi. |
|
Ar Ôl Cwblhau Datganiad O'r Cyfrifon I ystyried adroddiad y Prif Swyddog Cyllid a TGCh Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe gyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid a TGCh adroddiad gwybodaeth
(COFI/65/19) yn gofyn i Aelodau ystyried adborth ar y Dysgu Ar Ôl y Prosiect yn
dilyn yr archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2018/19. Wrth ystyried yr adroddiad nododd cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru er
mwyn mynd i’r afael â phroses yr archwiliad roedd rhaid i ddata gael ei
drosglwyddo o systemau’r Cyngor i Swyddfa Archwilio Cymru. Cydnabuwyd y byddai
pecynnau TGCh newydd posib yn cael effaith ar y ffordd y gallai gwybodaeth gael
ei throsglwyddo ac yna ei dadansoddi. PENDERFYNWYD – Nodi’r
adroddiad. |