Rhaglen a chofnodion
O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref
Cyswllt: Suzanne Price Hwylusydd Craffu
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb ar ran y Cynghorwyr Trevor Bates, Sonia
Benbow-Jones, Hugh Jones a John Pritchard. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod
a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD – Y dylid llofnodi Cofnodion y Cyfarfod a
gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
I ystyried adroddiad y Prif Swyddog Llywodraethu a Chwsmeriaid Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Llywodraethu a Chwsmeriaid adroddiad (COGC/34/19s) er mwyn i’r Pwyllgor
ystyried a chytuno ar ei raglen waith am y flwyddyn i ddod. Gan nodi nad oedd
yna eitemau busnes wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod mis Hydref, awgrymodd y
Cadeirydd y dylid ddefnyddio’r cyfarfod er mwyn rhoi cyfle i’r Pwyllgor ymweld
â Chanolfan Gyswllt y Cyngor, o ystyried ffocws y Pwyllgor ar wasanaeth i
gwsmeriaid. CYTUNWYD – Yn amodol ar yr hyn y soniwyd amdano, i
gymeradwyo’r Rhaglen Waith a amlinellwyd yn adroddiad COGC/34/19s. |
|
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam (BGC) I ystyried adroddiad y Prif Swyddog Llywodraethu a Chwsmeriaid Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Llywodraethu a Chwsmeriaid adroddiad (COGC/35/19s) i dderbyn ac
ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam oedd wedi cael
ei anfon i’r pwyllgor craffu yn unol â deddfwriaeth a phrotocol cytunedig
‘Atebolrwydd a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam’. Roedd yr adroddiad hefyd yn galluogi’r
pwyllgor i ystyried ar y cyd â’r BGC, rôl y pwyllgor craffu mewn cysylltiad â’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chytuno ar y ffocws ar gyfer craffu yn y
dyfodol. Croesawodd y Cadeirydd Lyndsey Rawlinson (Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus (BGC)), Michael Cantwell (CBSW) a Rob Smith (BIPBC) i’r
cyfarfod. Rhoddodd yr Hwylusydd Craffu
drosolwg i’r Aelodau o gefndir deddfwriaethol i waith craffu’r BGC. Wedyn rhoddodd Gadeirydd y BGC gyflwyniad i’r
Pwyllgor yn tynnu sylw’n benodol at: - weledigaeth hir
dymor y BGC a’r gwaith y mae partneriaid yn ei wneud - y 15
blaenoriaeth sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Lles 5 mlynedd, a’r meysydd o
ffocws cychwynnol - pwysigrwydd
cynaliadwyedd, ymrwymo i weithio mewn partneriaeth a sefydlu’r 5 ffordd o
weithio ar draws sefydliadau partner - gwerth rhannu
profiadau ar draws yr 19 Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru - materion
ariannol Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i ofyn cwestiynau i'r swyddogion oedd yn
bresennol. Codwyd y materion canlynol yn
ystod y drafodaeth: ·
Cydnabod
bod gwaith y Bwrdd yn eu dyddiau cynnar. ·
Y rhwystrau yn sgil
prosesau caffael gwahanol ar draws sefydliadau partner. Mae hyn yn fater y
mae’r BGC wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag o. ·
Nodwyd fod cyllid grant Llywodraeth Cymru ar gael ar
gyfer prosiectau rhanbarthol penodol. ·
Pwysleisiwyd yr angen i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac
ar draws sefydliadau i sicrhau fod ffrydiau ariannu yn cael eu cael eu
defnyddio’n llawn ac yn effeithlon. ·
Nodwyd mai rhan o rôl BGC Wrecsam oedd creu amodau ar
gyfer cydweithio effeithiol i gyrraedd nodau'r Cynllun Lles. ·
Wrth i flaenoriaethau’r BGC newid, mae angen i gynrychiolwyr
partneriaid gwahanol fod yn bresennol ar amseroedd gwahanol. Fe nodwyd bod
egwyddor o gydraddoldeb aelodaeth yn parhau ar draws sefydliadau partner BGC.
Rhoddodd Cadeirydd y BGC sicrwydd fod y rheini oedd yn bresennol yng
nghyfarfodydd y BGC yn ymroddedig. ·
Gofynnwyd
am sicrwydd fod dulliau priodol ar waith er mwyn i bartneriaid adrodd yn ôl i'w
sefydliadau ar waith y BGC. Roedd
Cadeirydd y BGC yn cydnabod fod hyn angen digwydd yn fwy effeithiol. ·
Yr angen i adnabod meysydd
sydd yn debyg yn rhanbarthol ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn
ceisio lleihau dyblygu a rhoi cyfleoedd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ddysgu
gan ei gilydd. Dywedodd Cadeirydd y BGC wrth y Pwyllgor ei bod hi a sawl aelod
arall yn aelodau o fwy nag un BGC. ·
Pwysigrwydd
sefydlu ffyrdd newydd o weithio mewn i sefydliadau partner i sicrhau
cynaliadwyedd hir dymor. Cadarnhaodd Cadeirydd y BGC fod y mater yma’n parhau i
gael ei drafod gyda'r Comisiynydd. ·
Yr
angen i werthuso mewn termau ariannol y gost i bob sefydliad i gefnogi’r BGC. · Gofynnwyd bod mwy o drafod yn digwydd gyda Chynghorau Cymuned i’w galluogi i gyfrannu at waith y ... gweler testun y cofnodion llawn ar gyfer yr eitem 14. |