Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref
Cyswllt: Helen Coomber Rhelowr Pwyllgor
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd
David Kelly. |
|
Datganiadau o gysylltiadau personol, os oes rhai Atgoffir yr Aelodau o’u cyfrifoldeb, dan Baragraff 11 o God Ymddygiad yr Aelodau, i ddatgan bodolaeth a natur unrhyw gysylltiad personol mewn perthynas ag unrhyw un o'r busnesau i'w trafod yn y cyfarfod hwn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd yr
Aelodau o’u cyfrifoldeb, dan Baragraff 11 Cod Ymddygiad yr Aelodau, i ddatgan
unrhyw gysylltiad mewn perthynas ag unrhyw un o’r eitemau i’w trafod yn y
cyfarfod hwn. Gwnaethpwyd y datganiadau
canlynol: Eitem 6 ar y
Rhaglen – Rhaglen Gyfalaf 2018/19 - 2022/23 Cynghorwyr Brian
Cameron, Dana Davies, Frank Hemmings, R Alun Jenkins a Graham Rogers –
Cysylltiad Personol sy'n Rhagfarnu – Llywodraethwyr Ysgol. Arhosodd y Cynghorwyr yn y cyfarfod gan
hawlio eithriad dan Baragraff 12(2) o God Ymddygiad yr Aelodau, a chymryd rhan
yn y drafodaeth wedi hynny. Y Cynghorydd Dana Davies – Personol – rhiant i blant sy’n mynychu Ysgol a
nodwyd yn yr adroddiad. Arhosodd y
Cynghorydd yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth wedi hynny. Cynghorwyr Dana Davies a Joan Lowe - personol - Aelod o Gyngor Cymuned sy’n
derbyn grant y cynnig gofal plant. Arhosodd y Cynghorwyr
yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth ac yn achos yr Aelod o’r Bwrdd
Gweithredol, yn pleidleisio wedi hynny. Eitem 11 ar y
Rhaglen - Cwmni Masnachu'r Awdurdod Lleol. Cynghorydd Andrew
Atkinson – Personol – Perchennog busnes glanhau
Arhosodd y Cynghorydd yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth a
phleidleisio wedi hynny. Cynghorwyr David
A Bithell a Joan Lowe – Personol sy’n Rhagfarnu - Llywodraethwr Ysgol. Arhosodd y
Cynghorwyr yn y cyfarfod gan hawlio eithriad dan Baragraff 12(2) o God
Ymddygiad yr Aelodau, a chymryd rhan yn y drafodaeth wedi hynny. Cynghorydd Hugh Jones - Personol - Cyfarwyddwr Cwmni Masnachu'r Awdurdod
Lleol. Arhosodd y Cynghorydd yn y
cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio wedi hynny. |
|
Cadeirydd Llywyddol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gadawodd y
Cadeirydd y Gadair a llywyddodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Hugh Jones, dros
yr eitemau nesaf ar y Rhaglen, er mwyn galluogi’r Cadeirydd i gyflwyno Eitemau
5 i 11 ar y Rhaglen yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Arweiniol Trefniadaeth -
Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu. (Y Cynghorydd Hugh Jones yn Cadeirio) |
|
Cyllideb Refeniw 2020/22 I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (i) Cefnogi’r dull ar gyfer y gyllideb at 2020/22. (ii) Cymeradwyo’r newidiadau i’r gwasanaeth a’r taliadau cysylltiedig sydd wedi’u categoreiddio fel rhai Math 1 ac sy’n gyfanswm o £1,396,000 ar gyfer 2020/21 a £575,000 ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn Atodiad 1 i adroddiad COFI/55/19, fel y gall swyddogion ddechrau ar y gwaith o’u gweithredu. (iii) Cymeradwyo ymchwil/ymgynghori pellach ac
ymgysylltu lle bo hynny’n briodol ar gynigion gwasanaeth sydd wedi’u
categoreiddio fel rhai Math 2 ac sy’n gyfanswm o £913,000 ar gyfer 2020/21 a
£140,000 ar gyfer 2021/22. (iv) Ymgymryd
â gwaith pellach ym mhob Adran / Gwasanaeth yn y Cyngor i nodi toriadau pellach
i’w hystyried yn yr Hydref / Gaeaf. Rheswm dros y penderfyniadau Galluogi’r Cyngor i wneud cynnydd wrth ddatblygu
ei gyllideb refeniw ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Drefniadaeth - Cyllid, Perfformiad,
Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu adroddiad (COFI/55/19) yn gofyn i’r aelodau
gymeradwyo cynigion Cam 1 cyllideb
2020/22. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol yr adroddiad a chafwyd trafodaeth fanwl. Nodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Pwysigrwydd ymgysylltiad
cyhoeddus a’r angen i sicrhau y cedwir at y broses ymgynghori gywir ·
Cafwyd eglurhad ar y broses
gyllidol y cytunwyd arni yn gynharach yn y flwyddyn ·
Pryder bod y broses gyllidol
wedi newid gan ganiatáu rhoi rhai cynigion ar waith ar unwaith. Rhoddodd y swyddogion sicrwydd i’r Aelodau bod y
newidiadau a ddosbarthwyd fel Math 1 yn cael eu hargymell ar gyfer eu
cymeradwyo er mwyn caniatáu i swyddogion ddechrau eu gweithredu. ·
Mynegwyd pryderon am y
cynigion i gyflwyno tâl am y biniau gwyrdd a sut y byddai staff yn gallu gweld pa finiau oedd
wedi cael eu talu amdanynt. Cafwyd sicrwydd yn y cyswllt hwnnw. PENDERFYNWYD – (i) Cefnogi’r ymdriniaeth ar gyfer cyllideb 2020/22. (ii) Cymeradwyo’r
newidiadau i’r gwasanaeth a’r taliadau cysylltiedig sydd wedi’u categoreiddio
fel rhai Math 1 ac sy’n gyfanswm o £1,396,000 ar gyfer 2020/21 a £575,000 ar
gyfer 2021/22 fel y nodir yn Atodiad 1 i adroddiad COFI/55/19, fel y gall
swyddogion ddechrau ar y gwaith o’u gweithredu. (iii) Cymeradwyo
ymchwil/ymgynghori pellach ac ymgysylltu lle bo hynny’n briodol ar gynigion
gwasanaeth sydd wedi’u categoreiddio fel rhai Math 2 ac sy’n gyfanswm o £913,000
ar gyfer 2020/21 a £140,000 ar gyfer 2021/22. (iv) Ymgymryd â
gwaith pellach ym mhob Adran / Gwasanaeth yn y Cyngor i nodi toriadau pellach
i’w hystyried yn yr Hydref / Gaeaf. Rheswm dros y penderfyniadau Galluogi’r Cyngor i wneud cynnydd wrth ddatblygu
ei gyllideb refeniw ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22.
|
|
Amrywiad i Drefn y Rhaglen Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD - Dwyn eitemau 5-8 ar y Rhaglen
ymlaen i’w hystyried ar y cam hwn. |
|
Trosglwyddo Swyddogaeth Gweinyddu Dyfarniadau Grant Cronfa’r Degwm I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD -
Cymeradwyo trosglwyddo swyddogaeth gweinyddu dyfarniadau grant Cronfa’r Degwm
yn ardal Wrecsam i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, gyda’r cais bod uchafswm
y grant i’w ddyrannu’n cael ei gynyddu i £1,000. Rheswm dros y
penderfyniad Caniatáu i weithdrefnau rheoli a dyrannu grantiau
Cronfa'r Degwm elwa o drefniadau canoli, gan gadw mewnbwn lleol i'r broses o
ddyrannu grantiau trwy gynrychiolaeth ar y panel sy'n dyrannu. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu
adroddiad (CODI/45/19) yn ceisio cymeradwyaeth i drosglwyddo gweinyddiaeth dyfarniadau grantiau Cronfa’r Degwm yn ardal
Wrecsam i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. PENDERFYNWYD –
Cymeradwyo trosglwyddo gweinyddiaeth dyfarniad grantiau Cronfa’r Degwm yn ardal
Wrecsam i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, gyda’r cais bod uchafswm y grant
i’w ddyfarnu’n cael ei gynyddu i £1,000. Rheswm dros y
penderfyniad Caniatáu i weithdrefnau rheoli a dyfarnu grantiau
Cronfa'r Degwm elwa o drefniadau canoli, gan gadw mewnbwn lleol i'r broses o
ddyfarnu grantiau trwy gynrychiolaeth ar y panel sy'n dyfarnu. |
|
Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2022/23 I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (i) Cymeradwyo dyrannu £650,000 i Gynllun Adnewyddu’r Amlosgfa yn 2020/21 fel
yr amlinellir ym mharagraff 2.4 adroddiad COFI/46/19. (ii) Nodi'r sefyllfa gyfalaf derfynol ar gyfer
2018/19. (iii) Cymeradwyo’r rhaglen dreigl ar gyfer
2019/20 hyd 2022/23, fel mae wedi’i nodi yn atodiadau 2 a 3. (iv) Bod y rhaglen gyfalaf yn cael ei hadolygu nesaf
a bod adroddiad arni’n mynd ger bron y Bwrdd Gweithredol yn Hydref 2019. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Mae’r adroddiad hwn yn dilyn adroddiad monitro
cynharach ym mis Chwefror yn unol â Rheoliadau Ariannol 3.13 sy’n ei gwneud yn
ofynnol i Brif Swyddog Cyllid a TGCh fonitro’r Rhaglen Gyfalaf ac adrodd arni
wrth yr Aelodau. (ii) Yn
unol â Deddf Llywodraeth Leol 2003 mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol
gydymffurfio a Chod Materion Ariannol CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf. Cofnodion: (Nodir
datganiadau o gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 25 uchod) Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Drefniadaeth -
Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu adroddiad (COFI/46/19) i
roi gwybod i'r Aelodau am alldro Rhaglen Gyfalaf 2018/19 ac i adolygu Rhaglen
Gyfalaf 2019/20-2022/23. PENDERFYNWYD– (i) Cymeradwyo dyrannu £650,000 i Gynllun
Adnewyddu’r Amlosgfa yn 2020/21 fel yr amlinellir ym mharagraff 2.4 adroddiad
COFI/46/19. (ii) Nodi'r
sefyllfa gyfalaf derfynol ar gyfer 2018/19.
(iii) Cymeradwyo’r
rhaglen dreigl ar gyfer 2019/20 hyd 2022/23, fel y mae wedi’i nodi yn atodiadau
2 a 3. (iv) Bod y rhaglen
gyfalaf yn cael ei hadolygu a’i hadrodd i’r Bwrdd Gweithredol nesaf yn Hydref
2019. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Mae’r adroddiad hwn yn dilyn adroddiad monitro cynharach ym mis Chwefror yn
unol â Rheoliadau Ariannol 3.13 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Swyddog
Cyllid a TGCh fonitro’r Rhaglen Gyfalaf ac adrodd i’r Aelodau arni. (ii) Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2003 mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol
gydymffurfio â Chod Materion Ariannol CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf. |
|
Sefyllfa Derfynol Rheoli'r Trysorlys a Gwir Ddangosyddion Darbodus 2018/19 I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD -
Nodi adroddiad Sefyllfa Derfynol Rheoli’r Trysorlys a Dangosyddion Darbodus
gwirioneddol 2018/19. Rheswm dros y penderfyniad Cydymffurfio a Chod
Materion Ariannol a Chod Ymarfer Rheoli Trysorlysoedd CIPFA. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol dros Drefniadaeth - Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a
Llywodraethu adroddiad (COFI/44/19) i gyflwyno’r adroddiad Rheoli'r Trysorlys alldro ac
adroddiad ar y gwir Ddangosyddion Darbodus ar gyfer y flwyddyn ariannol yn
diweddu 31 Mawrth 2019. PENDERFYNWYD -
Nodi adroddiad Rheoli’r Trysorlys alldro a'r gwir Ddangosyddion Darbodus ar
gyfer 2018/19. Rheswm dros y penderfyniad Cydymffurfio â Chod Materion Ariannol a Chod Ymarfer Rheoli Trysorlysoedd CIPFA. |
|
Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartref Gofal i Bobl Hŷn Ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu a'r Aelod Arweiniol dros Pobl - Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (i) Nodi cynnwys yr
adroddiad. (ii) Nodi’r
cynnydd rhanbarthol i fodloni gofynion Rhan 9 yn Neddf 2014 sy’n ei gwneud yn
gyfreithiol ofynnol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref
gofal i bobl hŷn. (iii) Sefydlu
cronfa gyfun heb rannu risg ar gyfer llety cartref gofal i bobl hŷn fel
mae’r adroddiad hwn yn ei nodi, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel yr
Awdurdod Cynnal, ac i’r trefniadau fod yn weithredol o flwyddyn ariannol
2019/20 ymlaen. (iv) Bod
y Cyngor yn ffurfio cytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, gan reoli trefniadau sefydlu,
gweithredu a llywodraethu mewn perthynas â'r gronfa gyfun am gyfnod o 3
blynedd. Rheswm dros y
penderfyniadau Mae cynnig i ddatblygu
cronfa gyfun heb rannu risg i gynnwys trafodion ariannol er mwyn bodloni
gofynion deddfwriaethol. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Drefniadaeth – Cyllid, Perfformiad,
Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu a'r Aelod Arweiniol dros Bobl - Iechyd a
Gofal Cymdeithasol Oedolion adroddiad (COFI/61/19) i roi diweddariad ar y camau
sy’n cael eu cymryd yn rhanbarthol i sicrhau cydymffurfiad â’r gofyniad
cyfreithiol i sefydlu a chynnal cronfa gyfun ar gyfer swyddogaethau llety
cartref gofal ar gyfer pobl hŷn i’w gofalu amdani gan Gyngor Sir Ddinbych
am dair blynedd; ac i geisio caniatâd i gymeradwyo a llofnodi ar ran y Cyngor
gytundeb cyfreithiol a baratowyd am gyfnod o dair blynedd i adlewyrchu'r
trefniadau cytunedig ar gyfer sefydlu, gweinyddu a llywodraethu’r gronfa gyfun. PENDERFYNWYD– (i) Nodi cynnwys yr adroddiad. (ii) Nodi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol i fodloni gofynion Rhan 9 o Ddeddf
2014 sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar
gyfer llety cartref gofal i bobl hŷn. (iii) Sefydlu cronfa gyfun heb fod yn rhannu risg gyfer llety cartref gofal i
bobl hŷn fel mae’r adroddiad hwn yn ei nodi, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn
gweithredu fel yr Awdurdod Cynnal, ac i’r trefniadau fod yn weithredol o
flwyddyn ariannol 2019/20 ymlaen. (iv) Bod y Cyngor yn ffurfio cytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, i reoli’r trefniadau
sefydlu, gweithredu a llywodraethu mewn
perthynas â'r gronfa gyfun am gyfnod o 3 blynedd. Rheswm dros y penderfyniadau Argymhellir datblygu cronfa gyfun heb fod yn
rhannu risg i gynnwys trafodion ariannol er mwyn bodloni gofynion
deddfwriaethol. |
|
Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi I ystyried adrodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Pobl – Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-Dlodi Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (i) Cymeradwyo datganiad Caethwasiaeth Fodern y Cyngor fel mae wedi’i amlinellu
yn Atodiad 1 i adroddiad COFI/49/19. (ii) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth
weithredu ymrwymiadau’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni
Cyflenwi fel y mae yn Atodiad 2. (iii) Nodi mai’r Cynghorydd Andrew Atkinson yw’r
Cefnogwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Mae llunio Datganiad Caethwasiaeth Fodern y Cyngor
a mabwysiadu’r Cod Ymarfer yn dangos ymrwymiad clir i wella lles cymdeithasol,
economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru, gan sicrhau bod gweithwyr
yng nghadwyni cyflenwi sector cyhoeddus Cymru’n cael eu cyflogi mewn modd teg a
moesegol. (ii) Mae’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern yn dangos y
camau a gymerwyd/gynlluniwyd i sicrhau nad oes caethwasiaeth a masnachu mewn
pobl yn y Cyngor na'i gadwyni cyflenwi. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol dros Bobl - Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi adroddiad
(COFI/4919) i roi gwybodaeth ar fabwysiad a gweithrediad y Cyngor o God Ymarfer
Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, i geisio
cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Caethwasiaeth Modern y Cyngor cyn ei gyhoeddi
ar wefan y Cyngor ac i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar
weithrediad yr ymrwymiadau yn y Cod Ymarfer. PENDERFYNWYD– (i) Cymeradwyo datganiad Caethwasiaeth Modern
y Cyngor fel y mae wedi’i amlinellu yn Atodiad 1 i adroddiad COFI/49/19. (ii) Nodi’r
cynnydd sydd wedi’i wneud wrth weithredu ymrwymiadau’r Cod Ymarfer ar
Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi fel sydd wedi’i amlinellu yn Atodiad
2. (iii) Nodi mai’r
Cynghorydd Andrew Atkinson yw’r Cefnogwr Gwrth-gaethwasiaeth a Chyflogaeth
Foesegol. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Mae llunio Datganiad Caethwasiaeth Modern y Cyngor a mabwysiadu’r Cod
Ymarfer yn dangos ymrwymiad clir i wella lles cymdeithasol, economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru, gan sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni
cyflenwi sector cyhoeddus Cymru’n cael eu cyflogi mewn modd teg a moesegol. (ii) Mae’r Datganiad Caethwasiaeth Modern yn dangos y camau a
gymerwyd/gynlluniwyd i sicrhau nad oes caethwasiaeth a masnachu pobl yn y
Cyngor na'i gadwyni cyflenwi. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd Wrth ystyried a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r
rhan nesaf o’r cyfarfod, gofynnwyd
i'r Aelodau ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu
ar brawf lles y cyhoedd. Eitem 11 – Nid i'w gyhoeddi yn
rhinwedd Paragraff 12 o Ran
4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Mae'r Swyddog Priodol wedi
penderfynu y dylai Paragraffau 14 & 15 fod yn gymwys wrth ystyried yr
adroddiad hwn. Ei barn o ran prawf lles
y cyhoedd oedd, er ei fod yn ymwybodol o'r angen i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd
awdurdodau cyhoeddus dros y penderfyniadau a gymerwyd ganddynt mewn perthynas â
gwario arian cyhoeddus, roedd hawl
trydydd parti i breifatrwydd ynghylch eu materion ariannol/busnes yn bwysicach
na'r angen i'r wybodaeth honno fod yn gyhoeddus ac roedd hi yn fodlon y byddai
datgelu'r wybodaeth yn yr achos hwn yn rhagfarnu’r drafodaeth mewn perthynas â
chysylltiadau llafur, er anfantais yr awdurdod a phreswylwyr ei ardal. Ar sail hynny, teimlai fod lles y cyhoedd
mewn cynnal yr eithriad yn drech na lles y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Felly,
argymhellir bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r Cyfarfod tra bydd yr
eitem canlynol yn cael eu hystyried oherwydd ei bod yn debygol, pe baent yn
bresennol, y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu iddynt, fel y'i
diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15, Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD - Gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod, tra bod yr eitem a ganlyn yn cael ei hystyried, oherwydd ei bod yn
debygol, pe baent yn bresennol, y byddai’r wybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu iddynt, fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 o Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Cwmni Masnachu'r Awdurdod Lleol
I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (i) Cymeradwyo Dewis C fel mae wedi’i nodi yn
adroddiad COFI/57/19. (ii) Gweithredu’r
newid o 1 Ionawr 2020 ymlaen. (iii) Rhoi’r Cwmni
Masnachu (WCSL) o'r neilltu. Rhesymau dros y
penderfyniadau (i) Cyflwynwyd
y dewisiadau sydd wedi’u cynnig a’u nodi yn yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor
Cyfranddalwyr i'w trafod a'u hadolygu, a chefnogwyd cynnig y dylid gweithredu
ar Ddewis C. (ii) Byddai
defnyddio Dewis C yn rhoi rheolaeth lwyr i CBSW a byddai'n caniatáu i'r holl
wasanaeth gael ei ddarparu yn unol â holl ofynion gweithrediadau'r Cyngor a
chynllunio ariannol. (iii) Byddai Dewis C yn
caniatáu trosglwyddo ymgymeriadau diogelu cyflogaeth i staff ar draws i’r
Cyngor a (gyda llawer o gymorth gan wasanaethau Cyfreithiol ac AD Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam) byddai’n sicrhau trosglwyddiad hwylus a di-dor. (iv) Bydd
y cwmni sy’n cael ei roi o'r neilltu yn darparu cerbyd y gallai'r Cyngor
fasnachu gweithgareddau eraill gydag o yn y dyfodol. (v) Mae anawsterau
sy’n deillio o gostau pensiwn a threth gorfforaeth wedi bod yn sylfaenol i
gyfarwyddwyr WCSL yn cefnogi’r camau a gynigiwyd i'r cwmni roi'r gorau i
fasnachu a bod gwasanaeth glanhau'r Cyngor yn dod yn un "mewnol" eto. (vi) Mae’r
Cyngor a’r Cwmni’n cytuno mai dyma’r argymhelliad priodol mewn perthynas â
dyfodol y cwmni. Cofnodion: (Nodir
datganiadau o gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 25 uchod) Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Rhanddeiliaid adroddiad (COFI/57/19) yn rhoi gwybodaeth am
Gwmni Masnachu'r Awdurdod Lleol. PENDERFYNWYD– (i) Cymeradwyo Opsiwn C fel mae wedi’i nodi yn adroddiad COFI/57/19. (ii) Gweithredu’r newid o 1 Ionawr 2020 ymlaen. (iii) Gwneud y Cwmni Masnachu (WCSL) yn anweithredol. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Cyflwynwyd yr opsiynau sydd wedi’u
cynnig a’u nodi yn yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor Rhanddeiliaid i'w trafod a'u
hadolygu, a chefnogwyd cynnig y dylid gweithredu Opsiwn C. (ii) Byddai
gweithredu Opsiwn C yn rhoi rheolaeth
lwyr i CBSW ac yn caniatáu cynnal darpariaeth yr holl wasanaethau yn unol â holl ofynion gweithrediadau a chynllunio
ariannol y Cyngor. (iii) Byddai Opsiwn C yn caniatáu gweithredu’r Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau ar
gyfer staff ar draws y Cyngor a (gyda lefel uchel o gefnogaeth gan
wasanaethau Cyreithiol ac AD Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy) ac yn sicrhau trosglwyddiad esmwyth a di-dor. (iv) Bydd gwneud y
cwmni yn anweithredol yn darparu cyfrwng y gall y Cyngor fasnachu drwyddo mewn
perthynas â gweithgareddau eraill yn y dyfodol. (v) Mae anawsterau’n deillio o gost pensiynau a threth gorfforaethol wedi bod yn sylfaenol ym
mhenderfyniad WCSL i gefnogi’r camau a gynigiwyd bod y cwmni’n rhoi'r gorau i
fasnachu a bod gwasanaeth glanhau'r Cyngor yn dod yn un "mewnol" eto. (vi) Mae’r Cyngor a’r Cwmni’n cytuno mai dyma’r argymhelliad priodol mewn
perthynas â dyfodol y cwmni. |