Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
O’r 1 Ebrill 2016 bydd yr Agenda a’r Cofnodion ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r adroddiadau yn ddogfennau gweithio ac yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig yn unol â Safon 41 yr Iaith Gymraeg a nodir yn y Rhybudd Cydymffurfio Terfynol ar gyfer y Cyngor hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref
Cyswllt: Helen Coomber Rhelowr Pwyllgor
Media
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o gysylltiadau personol, os oes rhai Atgoffir yr Aelodau o’u cyfrifoldeb, dan Baragraff 11 o God Ymddygiad yr Aelodau, i ddatgan bodolaeth a natur unrhyw gysylltiad personol mewn perthynas ag unrhyw un o'r busnesau i'w trafod yn y cyfarfod hwn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd yr Aelodau o’u cyfrifoldeb, dan baragraff 11 Cod Ymddygiad yr
Aelodau, i ddatgan unrhyw gysylltiad mewn perthynas ag unrhyw un o’r eitemau
i’w trafod yn y cyfarfod hwn.
Gwnaethpwyd y datganiadau canlynol: Eitem 6 ar y Rhaglen - Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Wrecsam Cynghorwyr Trevor Bates a Joan Lowe – Personol – Tirfeddiannwr. Arhosodd y Cynghorwyr yn y cyfarfod gan
gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio wedi hynny, yn achos Aelodau’r Bwrdd
Gweithredol. Eitem 7 ar y Rhaglen – Diweddaru Polisi a Ffioedd Trwyddedu Tai
Amlfeddiannaeth Cynghorydd Terry Evans – Personol a rhagfarnus – landlord lleol, perchennog
Tai Amlfeddiannaeth. Gadawodd y
Cynghorydd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon ac ni fu’n rhan o’r drafodaeth na’r
broses bleidleisio wedi hynny. Eitem 8 ar y
Rhaglen - Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam Cynghorwyr Andrew
Atkinson, Adrienne Jeorrett a Phil Wynn – Personol– Aelod o Fforwm/Grŵp
Llywio Canol Tref Wrecsam. Arhosodd y Cynghorwyr
yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio wedi hynny, yn
achos Aelodau’r Bwrdd Gweithredol. |
|
Cadarnhau
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2019 fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD - Llofnodi
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2019 fel cofnod cywir. |
|
I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Pobl – Addysg Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (i) Y byddai'r Aelodau'n nodi'r adborth ar yr ymgynghoriad a
geir yn adroddiad HEd/05/19 a’r ddogfen ôl-ymgynghori (fel y nodir yn Atodiad
2). (ii) Awdurdodi Swyddogion i symud ymlaen i Hysbysiadau Statudol (fel y nodir yn
Atodiad 1) mewn perthynas â’r cynnig i gynyddu lleoedd disgyblion yn Ysgol
Gynradd Lôn Barcas. Adeiladu estyniad i’r adeilad presennol i greu lle ar gyfer 105 disgybl
arall (15 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn).
Byddai’r flwyddyn gyntaf o gynnydd ym mis Medi 2020 ar gyfer y
dosbarthiadau Meithrin (15 lle) a Derbyn (15 lle) yn unig. Bydd y nifer derbyn yn cynyddu 15 lle bob blwyddyn (o 30 i 45) yn y
dosbarthiadau meithrin a derbyn o 2020 ymlaen, a bydd y dosbarthiadau hyn yn
symud drwy’r ysgol nes eu bod yn cyrraedd uchafswm nifer y lleoedd, sef 315 (yn
ogystal â 45 o leoedd yn y meithrin). (iii) Ymdrin â'r materion hyn fel materion brys yn unol â Rheol Sefydlog 43 (1)
Rheolau Sefydlog y Cyngor. Rhesymau dros y penderfyniadau (i)
Mae galw parhaus am leoedd yng Nghanol Tref Wrecsam. Er ein bod yn bodloni’r galw ar hyn o bryd o fewn y Sir,
rhagwelir twf pellach. (ii)
Ar gyfer y cylch derbyn presennol yn 2018-2019 methodd yr Adran Addysg, sef
yr Awdurdod Derbyn, â bodloni’r galw lleol am leoedd yng Nghanol y Dref, a bu’n
rhaid gwrthod disgyblion oedd wedi dewis Ysgol Gynradd Lôn Barcas. (iii)
Er mwyn cyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru i leihau meintiau dosbarthiadau
cynradd ymhellach, mae’n rhaid gwneud darpariaeth ar gyfer mwy o leoedd, yn
enwedig felly yng Nghanol y Dref. (iii) Mae cyfle wedi codi i ni fodloni’r galw ychwanegol drwy
ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru nad yw’n rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif. Llywodraeth Cymru fyddai’n
ariannu'r prosiect hwn 100%. (v) Hoffem i’r cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod gael
ei gynnig yn llawn cyn cychwyn cyfnod gwyliau’r Pasg. Er
mwyn gwneud hyn, byddai gofyn i ni gyhoeddi Hysbysiadau Statudol ar 15 Mawrth
2019, neu cyn hynny, a fyddai’n golygu bod y cyfnod wedi dod i ben erbyn 12
Ebrill 2019. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Pobl – Addysg adroddiad (HEd/05/19) i ddarparu
adborth ar yr ymgynghoriad diweddar yn ymwneud â chynnig i gynyddu lle i
ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Lôn Barcas, a cheisio cymeradwyaeth i gyhoeddi'r
Hysbysiadau Statudol perthnasol a’r Adroddiad Ôl Ymgynghori. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol yr adroddiad gan amlygu’r prif bwyntiau
ynddo. Trafodwyd y pwyntiau canlynol yn
ystod y drafodaeth: ·
Cadarnhad y byddai’r cyfnod ymgynghori yn caniatáu i
drigolion ac aelodau eraill o’r cyhoedd gael cyfle i roi eu barn. ·
Ymrwymiad gan yr Aelod Arweiniol y byddai unrhyw
wrthwynebiad yn cael ei ystyried yn ofalus ac yr edrychir ar ddewisiadau i
leddfu pryderon lle bo’n bosibl. ·
Awgrym pe bai’r cais yn symud ymlaen, byddai angen
cyflwyno cais cynllunio, byddai hyn yn gyfle arall i drigolion/aelodau’r
cyhoedd i godi pryderon os dymunent. ·
Gofyn am eglurhad mewn perthynas â’r clwb ar ôl
ysgol. Dywedodd
Swyddogion bod darparu unrhyw glwb o’r fath yn fater i’r ysgolion wneud
penderfyniad arno. ·
Pryderon wedi eu mynegi gan yr Aelod lleol am broblemau
traffig a brofir ar hyn o bryd yn yr ysgol a'r ardal breswyl. ·
Awgrym wrth ystyried estyniad ar ysgolion yn y dyfodol,
bod opsiynau ar gyfer safleoedd gollwng y disgyblion o fewn ffin yr ysgol yn
cael eu hystyried. ·
Cydnabod na fynegwyd unrhyw bryderon am y cynnydd mewn
capasiti disgyblion yn yr ysgol. PENDERFYNWYD - (i) Bod
Aelodau yn nodi’r adborth i’r ymgynghoriad yn adroddiad HEd/05/19 a’r ddogfen
ôl ymgynghoriad (fel y manylwyd yn Atodiad 2). (ii) Bod Swyddogion yn cael awdurdod i symud i
Hysbysiadau Statudol (fel y manylwyd yn Atodiad 1) ynglŷn â’r cynnig i
gynyddu capasiti disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Lôn Barcas. I greu estyniad i’r adeilad presennol i dderbyn 105
o ddisgyblion ychwanegol (15 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn). Byddai cynnydd blwyddyn gyntaf ym mis Medi
2020 ar gyfer dosbarthiadau Meithrin (15 lle) a Derbyn (15 lle) yn unig. Byddai’r nifer derbyn blynyddol yn cynyddu o 15 lle
(o 30 i 45) ar gyfer lleoedd meithrin a derbyn o 2020 ymlaen a byddai’r
dosbarthiadau yn bwydo i weddill yr ysgol nes y cyrhaeddir yr uchafswm o ran
capasiti o 315 (a 45 lle meithrin). (iii) Y dylid delio â'r
materion hyn fel eitem frys o fusnes yn unol â Rheol Sefydlog 43 (1) o Reolau
Sefydlog y Cyngor. Rhesymau dros y penderfyniadau (i)
Mae galw
parhaus am leoedd yng nghanol tref Wrecsam. Er
ein bod yn bodloni’r galw ar hyn o bryd, rhagwelir twf pellach. (ii)
Ar gyfer y
cylch derbyn presennol yn 2018-2019 methodd yr Adran Addysg, yr Awdurdod Derbyn,
â bodloni’r galw yn lleol ar gyfer lleoedd ynghanol y dref, a bu’n rhaid
gwrthod disgyblion oedd wedi dewis Ysgol Gynradd Gymunedol Lôn Barcas. (iii)
Er mwyn
cyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru i leihau meintiau dosbarthiadau cynradd
eto, mae’n rhaid darparu mwy o leoedd yn ffisegol, yn enwedig felly ynghanol y
dref. (iii) Mae cyfle wedi
codi inni fodloni’r galw ychwanegol drwy ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru
nad yw’n rhan o Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Llywodraeth Cymru a fyddai’n ariannu'r
prosiect hwn 100%. (v) Hoffem gynnal y cyfnod gwrthwynebiad statudol 28
diwrnod llawn cyn dechrau cyfnod gwyliau'r Pasg. I alluogi hyn, byddai angen i ni gyhoeddi
Hysbysiadau Statudol ar neu cyn 15 Mawrth 2019, a fyddai’n dod i ben erbyn 12 Ebrill
2019. |
|
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Wrecsam I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol ar gyfer Lle – Amgylchedd a Thrafnidiaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
– Argymell i’r Cyngor gymeradwyo Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Bwrdeistref
Sirol Wrecsam 2019. Rheswm
dros y penderfyniad Mae
gofyniad statudol dan adran 60(3) a (4) y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, i
Awdurdodau Lleol gynnal asesiad newydd, adolygu eu Cynllun Gwella Hawliau
Tramwy a gwneud penderfyniad ar ddiwygiadau, ddim mwy na 10 mlynedd ar ôl
cyhoeddi’r cynllun blaenorol. Mae’n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth mai
penderfyniad y Cyngor yw cymeradwyo’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau)
(Cymru) 2007). Cofnodion: (Datganiadau o
gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 108 uchod) Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Leoedd - Amgylchedd a Chludiant
adroddiad (HEP/14/19) yn gofyn am argymhelliad i’r Cyngor i gymeradwyo’r
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ei adroddiad ac ymatebodd i gwestiynau yn
unol â hynny. Yn ystod y drafodaeth
codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Croesawu’r newyddion y byddai’r cynllun yn gwella
mynediad i’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, fyddai'n cael effaith
gadarnhaol ar iechyd. ·
Awgrym bod Swyddogion yn ymgysylltu â phartneriaid fel
Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Heddlu, i godi ymwybyddiaeth am y
peryglon i gerddwyr sy’n defnyddio llwybrau troed drwy dir ffermio lle roedd da
byw yn bresennol. ·
Pwysigrwydd gwaith partneriaeth er mwyn gwella cefn gwlad
a’i wneud yn fwy hygyrch. ·
Byddai’r Pwyllgor Craffu ar Gartrefi a’r Amgylchedd yn
monitro cynnydd y cynllun. ·
Pwysigrwydd sicrhau bod nodwyr llwybrau yn cael eu cynnal
a’u cadw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau’n glir ac yn gyfan. PENDERFYNWYD – Argymell
i’r Cyngor gymeradwyo Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Bwrdeistref Sirol Wrecsam
2019. Rheswm dros y
penderfyniad Mae yna ofyniad statudol i Awdurdodau Lleol o dan adran 60(3) a (4) Deddf Cefn Gwlad a hawliau tramwy i wneud asesiad newydd, adolygu eu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a gwneud penderfyniad ar newidiadau, dim mwy na 10 mlynedd ar ôl cyhoeddi’r cynllun blaenorol. Mae’n ofynnol yn y ddeddfwriaeth bod cymeradwyo'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn benderfyniad y Cyngor (Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth)(Swyddogaethau a Chyfrifoldebau)(Cymru) 2007). |
|
Diweddaru Polisi a Ffioedd Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau a'r Aelod Arweiniol ar gyfer Lle - Tai Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (i) Mabwysiadu’r dull codi tâl diwygiedig ar gyfer ffioedd
trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Atodiad 1 adroddiad HEP/18/19) a chymeradwyo’r
Polisi Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (3ydd cyhoeddiad) a ddiweddarwyd. (ii) Gweithredu'r ffi arfaethedig o £100 am adennill y costau
a ysgwyddir gan archwiliadau mewnfudo o 1 Ebrill 2019 ymlaen. (iii) Gweithredu ffi arfaethedig o £35 yr awr (neu ran o awr)
ar gyfer perchnogion/landlordiaid/Asiantaethau Gosod Tai am ddarparu cyngor ar
y safle ar gyfer darpar Dŷ Amlfeddiannaeth o 1 Ebrill 2019 ymlaen. (iv) Diddymu’r ffi gorfodi o £415.50 am wasanaethu hysbysiadau
ymwybyddiaeth o beryglon o 1 Ebrill 2019 ymlaen. (v) Ymdrin
â'r mater hwn fel mater brys yn unol â Rheol Sefydlog 43(1) Rheolau Sefydlog y
Cyngor. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Er mwyn sicrhau cydymffurfiad â Chyfarwyddeb
Gwasanaethau’r Undeb Ewropeaidd (ESD 2006/123/EC) drwy weithredu’r trefniadau
gweinyddol gofynnol cyn gynted ag y bo modd ar ôl penderfyniad y Bwrdd
Gweithredol. (ii) Er mwyn adennill y costau a ysgwyddwyd gan archwiliadau
mewnfudo, sy’n wasanaeth anstatudol, yn llawn. (iii) Er mwyn adennill yn llawn y costau a ysgwyddir pan fo
Swyddog yn ymweld â darpar Dŷ Amlfeddiannaeth ar gais landlord neu
Asiantaeth Gosod Tai i roi cyngor cyn gwneud cais am drwydded. (iv) Er mwyn galluogi Landlordiaid ac Asiantaethau Gosod Tai i ddefnyddio’r ffi o £415.50 i dalu am waith i ddileu’r peryglon a nodir yn yr hysbysiad ymwybyddiaeth o beryglon. Cofnodion: (Datganiadau o
gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 108 uchod) Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y
Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol a’r Aelod Arweiniol Lle – Tai, adroddiad ar y cyd
(HEP/18/19) yn gofyn am gymeradwyaeth i’r polisi trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth
a ddiweddarwyd; cymeradwyo ffioedd newydd sy’n ymwneud ag archwiliadau mewnfudo
a’r cyngor cyn gwneud cais Tai Amlfeddiannaeth; a chymeradwyaeth i derfynu’r
ffi gorfodi presennol o dan y Ddeddf Tai 2004 ar gyfer hysbysiadau
ymwybyddiaeth o berygl. Aeth yr Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y
Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol ati i gyflwyno’r adroddiad ac ymateb i gwestiynau
gan Aelodau’r Pwyllgor. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cadarnhad bod yna newidiadau bach yn y ddogfen bolisi
oedd yn ystyried newidiadau strwythurol o fewn y Cyngor. ·
Gofynnwyd am eglurhad o ran pwy fyddai’n gyfrifol am
sicrhau darpariaeth tystysgrifau diogelwch nwy, gwiriadau trydanol a larymau
mwg, fel rhan o amodau'r drwydded. Dywedodd
Swyddogion bod Deddf newydd ar fin cael ei chyflwyno’n fuan, fyddai’n creu
darpariaethau statudol, ond y landlord fyddai â'r cyfrifoldeb. PENDERFYNWYD - (i) Bod y dull codi tâl diwygiedig ar gyfer ffioedd
trwyddedu Tai Amfeddiannaeth (Atodiad 1 i adroddiad HEP/18/19) yn cael ei
fabwysiadu a bod y Polisi Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth a ddiweddarwyd (3ydd
rhifyn) yn cael ei gymeradwyo. (ii) Bod ffi arfaethedig o
£100 ar gyfer adfer costau drwy archwiliadau mewnfudo yn cael ei gweithredu o 1
Ebrill 2019. (iii) Bod ffi arfaethedig o
£35 yr awr (neu rhan o awr) i berchnogion/landlordiaid/Asiantaethau Gosod Tai
ar gyfer darparu cyngor ar y safle ar gyfer darpar Dai Amlfeddiannaeth yn cael
ei gweithredu o 1 Ebrill 2019. (iv) Bod y ffi gorfodi £415.50 ar gyfer hysbysiadau
ymwybyddiaeth o berygl yn dod i ben o 1 Ebrill 2019. (v) Y dylid delio
â'r mater hwn fel mater brys yn unol â Rheol Sefydlog 43(1) yn Rheolau Sefydlog
y Cyngor. Rhesymau dros y penderfyniadau (i) Sicrhau cydymffurfedd gyda Chyfarwyddeb
Gwasanaethau Undeb Ewropeaidd (ESD 2006/123/EC) drwy weithredu’r trefniadau
gweinyddu gofynnol gynted â phosibl yn dilyn penderfyniad y Bwrdd
Gweithredol. (ii) Adfer costau a
ysgwyddir drwy archwiliadau mewnfudo sy’n wasanaeth anstatudol. (iii) Adfer y costau llawn a
ysgwyddir pan fydd Swyddog yn ymweld â darpar Dai Amlfeddiannaeth ar gais
landlord neu Asiant Gosod i roi cyngor cyn gwneud cais am drwydded. (iv) I alluogi Landlordiaid ac Asiantaethau Gosod Tai i
ddefnyddio’r ffi £415.50 i dalu am waith i symud y peryglon a nodwyd yn yr
hysbysiad ymwybyddiaeth o beryglon.
|
|
Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – Cymeradwyo fersiwn ddrafft Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion
Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam. Rheswm dros y penderfyniad Er mwyn darparu canllawiau i’r rhai hynny sy’n ceisio
cynnal gwaith datblygu a newid o fewn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam, gan
sicrhau y caiff cymeriad ac ymddangosiad arbennig yr Ardal Gadwraeth eu cadw
a’u gwella. Cofnodion: (Datganiadau o
gysylltiad Aelodau â’r eitem hon yng Nghofnod 108 uchod) Roedd yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cynllunio a Gwasanaethau
Corfforaethol wedi cyflwyno adroddiad (HEP/07/19) yn ceisio mabwysiadu Cynllun
Asesu a Rheoli Nodweddion yr Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol yr adroddiad a chafwyd trafodaeth. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau
canlynol: ·
Pryder am annibendod stryd, gan gynnwys biniau masnachol,
arwyddion stryd a hysbysfyrddau. ·
Anesmwythder ynglŷn ag adnoddau cyfyngedig sydd ar
gael ar gyfer gorfodi. Cafodd hyn ei
gydnabod gan yr Aelod Arweiniol, ddywedodd ei fod wedi cael trafodaethau gyda
Swyddogion ar sut i fynd i’r afael â’r mater hwn. ·
Cydnabyddiaeth y gall atal hysbysfyrddau gael effaith
negyddol ar rai busnesau bach. PENDERFYNWYD –
cymeradwyo Cynllun Drafft Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref
Wrecsam. Rheswm dros y penderfyniad Darparu
arweiniad i’r sawl sy’n ceisio gwneud gwaith datblygu a newid o fewn Ardal
Gadwraeth Canol Tref Wrecsam, sicrhau bod cymeriad arbennig ac ymddangosiad yr
Ardal Gadwraeth yn cael ei ddiogelu neu ei wella. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd Wrth ystyried a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r
rhan nesaf o’r cyfarfod, gofynnwyd
i'r Aelodau ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu
ar brawf lles y cyhoedd. Eitem 11 – Nid i'w gyhoeddi yn
rhinwedd Paragraff 15 o Ran
4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Mae'r Swyddog Priodol wedi
penderfynu y dylai Paragraff 15 fod yn gymwys wrth ystyried yr adroddiad
hwn. Ei barn o ran prawf lles y cyhoedd
oedd, er ei fod yn ymwybodol o'r angen i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd
awdurdodau cyhoeddus dros y penderfyniadau a gymerir ganddynt, roedd hi yn fodlon
y byddai datgelu'r wybodaeth yn yr achos hwn yn rhagfarnu’r drafodaeth mewn
perthynas â chysylltiadau llafur, er anfantais yr awdurdod a phreswylwyr ei
ardal. Ar sail hynny, teimlai fod lles y
cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn drech na lles y cyhoedd wrth ddatgelu'r
wybodaeth. Felly,
argymhellir bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r Cyfarfod tra bydd yr
eitem canlynol yn cael eu hystyried oherwydd ei bod yn debygol, pe baent yn
bresennol, y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu iddynt, fel y'i
diffinnir ym Mharagraff 15, Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
(fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD - Gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r
Cyfarfod tra’r oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan ei bod yn
debygol, pe baent yn bresennol, y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu iddynt, fel y'i diffinnir ym Mharagraff 15, Rhan 4 Atodlen 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Ebrill 2019 dyfarniad lwfans cost byw NJC I ystyried adroddiad yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol Penderfyniad: PENDERFYNWYD
- (i) Cymeradwyo’r diwygiadau i strwythur tâl a graddio NJC
sydd wedi deillio o weithredu cytundeb tâl NJC 2018 – 2020, fel y nodir yn
Atodiad 3 adroddiad HCCS /11/19. (ii) Awdurdodi Rheolwr Gwasanaeth AD a DS i weithredu’r
ymarfer cymathu a gwneud y diwygiadau angenrheidiol i Bolisi Cyflog y Cyngor er
mwyn adlewyrchu’r newidiadau y cytunwyd arnynt. Rheswm dros y penderfyniadau Er
mwyn sicrhau bod gan y Cyngor ymagwedd deg a chyson tuag at gyflogau a’i fod yn
cymhwyso cytundeb tâl NJC ar gyfer 2018 – 2020 ar 1 Ebrill 2019. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cynllunio a Gwasanaethau
Corfforaethol adroddiad (HCCS/11/19) yn ceisio cymeradwyaeth i newid bach i
strwythur graddio'r Cyngor sy’n codi o’r gofyniad i weithredu cytundeb tâl NJC
y cytunwyd arno yn genedlaethol ar gyfer 2018 – 2020. PENDERFYNWYD - (i) Bod yr adolygiadau i’r strwythur tâl a graddio NJC
sy’n codi drwy weithredu cytundeb tâl NJC 2018 – 2020, fel y manylwyd yn
Atodiad 3 i adroddiad HCCS/11/19 yn cael eu cymeradwyo. (ii) Awdurdodi
Rheolwr Gwasanaeth AD a Datblygu Trefniadaeth i weithredu’r ymarfer cymathu a
gwneud y diwygiadau angenrheidiol i Bolisi Cyflog y Cyngor er mwyn adlewyrchu’r
newidiadau y cytunwyd arnynt. Rheswm dros y penderfyniadau Sicrhau bod y Cyngor yn
defnyddio dull teg a chyson ar gyfer tâl ac yn defnyddio’r cytundeb tâl NJC ar
gyfer 2018 – 2020 i 1 Ebrill 2019. |